Rheolwr RHaglen Ynys Ynni

Cyngor Sir Ynys Môn / Isle of Anglesey County Council-Llangefni, United Kingdom

Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae’n ymwneud â gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy’n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy’n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu’r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.

Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni’n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tîm. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o’r buddion y gallwn eu cynnig i’n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Pwrpas cyffredinol y swydd
Arwain, rheoli a chydlynu cyfeiriad strategol, cyflawniad a pherfformiad y Rhaglen Ynys Ynni er mwyn sicrhau y gellir gwireddu amcanion a deilliannau’r Rhaglen, ynghyd â’r buddion a ragwelir, a hynny fel bod modd i'r ynys fanteisio i’r eithaf ar yr holl gyfleoedd economaidd-gymdeithasol a fydd yn codi o’r datblygiadau carbon isel arfaethedig.

Mae Ynys Môn bellach yn barod i ddod yn ganolfan fyd-eang ar gyfer cynhyrchu ynni glân, carbon isel ac arloesi mewn uwch dechnoleg. Bydd y rôl hon yn helpu i gydlynu ymateb y Cyngor i’r buddsoddiadau sylweddol arfaethedig, a’r cyfleoedd a’r heriau cysylltiedig, er mwyn gwneud y mwyaf o fanteision economaidd-gymdeithasol lleol i’r Ynys a’i chymunedau.

Mae’r buddsoddiadau arfaethedig yn cynnwys adeiladu adweithydd Modiwlaidd Bach cyntaf y DU yn Wylfa, Porthladd Rhydd Ynys Môn a Pharth Twf AI Ynys Môn. Mae prosiectau eraill yn cynnwys llif llanw, hydrogen, gwynt ar y môr a storio batris.

Bydd y swydd yn canolbwyntio ar reoli a chyflawni’r Rhaglen Ynys Ynni (gan gynnwys y Swyddfa Rheoli Rhaglen) i ddatblygu a chyflwyno ystod o weithgareddau statudol a dewisol i gefnogi economi leol ffyniannus a llewyrchus, yn ogystal â gwireddu amcanion y Cyngor.
Mwy o wybodaeth Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.**

Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.

Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.

Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a’r fanyleb person i’ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.
Manylion cyswllt Enw**: Christian Branch

Rhif ffôn:07901110621

Job Reference: CORP100610