Cynorthwy-ydd Gofal - Cartref Gofal Preswyl

Cyngor Sir Ynys Môn / Isle of Anglesey County Council-Bryngwran, Reino Unido

Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae’n ymwneud â gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy’n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy’n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu’r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.

Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni’n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tîm. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o’r buddion y gallwn eu cynnig i’n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Pwrpas cyffredinol y swydd
Cyfrannu at y ddarpariaeth o wasanaeth i’r preswylwyr i sicrhau bod eu hanghenion corfforol, cymdeithasol, deallusol ac emosiynol yn cael eu bodloni tra’n sicrhau urddas, dewis, annibyniaeth a pharch.

Gweithio’n effeithiol gydag eraill o fewn y cartref er mwyn sicrhau bod anghenion y preswylwyr yn cael eu bodloni.
Mwy o wybodaeth Mae'r rôl yma ar gyfer 1shift nos yr wythnos.**

Penodiad yn ddibynnol ar Gwiriad GDG (DBS) lefel uwch boddhaol.

Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.

Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.

Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.

Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a’r fanyleb person i’ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.
Manylion cyswllt Enw**: Paula Edwards

Rhif ffôn:01407 720949

Job Reference: CORP100543